Canolfannau Cyngor ar Bopeth
cynnig gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim ynghylch amrywiaeth eang o faterion: ariannol, budd-daliadau, bod yn ddefnyddiwr, materion cyfreithiol, llety ac ati, yn eu swyddfeydd, dros y ffôn, ar y we a thrwy e-bost. Maent hefyd yn gallu ymweld â phobl yn eu cartrefi. Gwasgwch ‘Chwilio’ i gael manylion cyswllt y swyddfa yng nghylch Aberystwyth (yn cynnwys Borth, Llanbedr Pont Steffan, Tayfron a Thregaron) a chylch Aberteifi (yn cynnwys Castell Newydd Emlyn a Llandysul).
Gwasanaeth Hawliau Anabledd
Tanparcau, Llanrhystud SY23 5AL. 01974 202783.
Samariaid
darparu cymorth emosiynol cyfrinachol, 24 awr o’r dydd ar gyfer pobl sy’n teimlo’n isel neu ddiobaith, dros y ffôn (08457 90 90 90 am bris galwad leol) neu e-bost. Ymwelwch â’r swyddfa leol drwy ffonio 01970 624535 [Aberystwyth]. Maengwyn, 5 Heol y Drindod, Aberystwyth, SY23 1LU.
CYNHALWYR
Cynllun Cymorth Cerdyn Argyfwng Cynhalwyr Ceredigion
gwasanaeth ar gael i gynhalydd sydd wedi’i ohirio rhag cyrraedd adref oherwydd damwain neu salwch sydyn.
Cynhalwyr Ceredigion darparu cyngor i gynhalwyr.
Anne Kidner, Collingwood, Maes-y-Garn, Bow Street, Ceredigion SY24 5DS, 01970 828459.
Croesffyrdd Ceredigion
darparu cymorth ymarferol, yn y cartref fel arfer, er mwyn rhoi saib i gynhalwyr.
01970 627966. e-bost
Cynhalwyr Ifanc Ceredigion
bwriad yw cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 11 a 16 mlwydd oed sy’n gofalu am rywun arall.
ADDYSG
Addysg a Gwasanaethau Cymunedol
gallu ateb cwestiynau ynglŷn â dysgu yn y cartref, gwasanaeth Anghenion Addysgol Arbennig ac ati.
GOFAL IECHYD
Cyngor Iechyd Cymunedol Ceredigion
cynnig gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag iechyd a gwasanaethau perthnasol yn yr ardal leol. Maent hefyd yn cynghori a chefnogi pobl sydd am wneud cwynion ynglŷn â Gwasanaethau GIG.
Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru
darparu cymuned integredig a gwasanaeth gofal iechyd craff mewn ysbytai a chlinigau allanol.
Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion
cyfrifol am fonitro a datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol (Meddygon Teulu, deintyddion, optegwyr, fferyllwyr) a mynd i’r afael gydag anghydraddoldeb o ran iechyd.
Doctoriaid, Deintyddion, Fferyllwyr ac Optegwyr Lleol
ATGYWEIRIADAU A NEWIDIADAU I’R CARTREF
Gofal a Thrwsio Ceredigion
cynnig helpu gydag atgyweiriadau i’r cartref a gosod cymhorthion anabledd. Mae gwasanaeth arbennig ar gyfer pobl sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Addasiadau ar gyfer yr anabl gan y Cyngor Sir
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol
GWASANAETHAU LLYFRGELL
Gwasanaethau Llyfrgell Ceredigion
SHOPMOBILITY
Shopmobility Symudol Ceredigion
llogi cadeiriau olwyn â llaw, cadeiriau olwyn trydanol a sgwteri wedi’u pweru, yn Aberystwyth.
GOFAL CYMDEITHASOL & CYMORTH ANABLEDD
Y Groes Goch Brydeinig
gallu llogi offer meddygol i bobl ar dymor byr, fel cadeiriau olwyn, gorffwyson gwely a chomodau. Mae sesiwn gofal therapiwtig yn cynnig sesiwn 30 munud o ymlacio ar gyfer pobl sy’n bryderus, o dan straen neu’n sâl, mae’n cynnwys gofal llaw, tylino’r llaw a thylino’r gwddf a’r ysgwyddau trwy’r dillad gan wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi. Lleoliadau yn ysbytai Aberteifi ac Aberystwyth.
Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cymdeithasol
darparu gwybodaeth ynglŷn â gwasanaethau’r Awdurdod Lleol.
Sut i gael rhagor o wybodaeth
am fathodynnau Glas, systemau larwm crog, trwydded fws ddi-dâl, llogi cadeiriau olwyn a chomodau am ddim, allwedd i doiledau anabl a help gyda glanhau.
CLUDIANT
Cludiant Cymunedol Ceredigion
darparu gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth o gynlluniau yn y sir sy’n rhoi cymorth teithio i apwyntiadau meddygol a deintyddol, gan gynnwys therapi cyflenwol.