CYNGOR A CHYMORTH DROS Y FFÔN
Citizens Advice Bureaux
cynnig gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim ynghylch amrywiaeth eang o faterion: ariannol, budd-daliadau, bod yn ddefnyddiwr, materion cyfreithiol, llety ac ati, yn eu swyddfeydd, dros y ffôn, ar y we a thrwy e-bost. Maent hefyd yn gallu ymweld â phobl yn eu cartrefi. Gwasgwch ‘Chwilio’ i gael manylion cyswllt y swyddfa yn ardal Hwlffordd (yn cynnwys Abergwaun, Wdig, Aberdaugleddyf, Arberth a Thŷ Ddewi) ac ardal Doc Penfro (yn cynnwys Cilgeti, Penfro a Dinbych-y-pysgod).
Cyngor ar Hawliau wrth Connect For Disability
bwriad yw helpu pobl gyda phob math o anableddau, yn Sir Benfro ac ymhellach, i gael gofal cymunedol, budd-daliadau anabl ac ati.
Grŵp Mynediad Sir Benfro
darparu gwybodaeth am fynediad i adeiladau, gweithgareddau awyr agored ac ati, ar gyfer pobl anabl.
Samariaid
darparu cymorth emosiynol cyfrinachol, 24 awr o’r dydd ar gyfer pobl sy’n teimlo’n isel neu ddiobaith, dros y ffôn (08457 90 90 90 am bris galwad leol) neu e-bost. Ymwelwch â’r swyddfa leol yn Hwlffordd drwy ffonio 01437 766699
Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau
cynnig gwybodaeth ynglŷn â lles a hawl derbyn budd-daliadau nawdd cymdeithasol er mwyn cael mwy o bobl i dderbyn budd-daliadau, hefyd yn darparu eiriolaeth a chynrychiolaeth er mwyn herio penderfyniadau ynghylch hawliau lles.
CYNHALWYR
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
Cymorth i Gynhalwyr
Croesffyrdd Sir Benfro
Bwriad Croesffyrdd yw rhoi cymorth ymarferol, yn y cartref fel arfer, er mwyn rhoi saib i gynhalwyr. 01437 764639, e-bost.
Cynhalwyr Ifanc Sir Benfro
bwriad yw cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 11 a 16 mlwydd oed sy’n gofalu am rywun arall.
Canolfan Cynhalwyr Sir Benfro Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol
yn Hwlffordd, y bwriad yw darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth lleol i gwrdd ag anghenion cynhalwyr yn eu cymunedau.
ADDYSG
Dysgu Sir Benfro
GOFAL IECHYD
Cyngor Iechyd Cymunedol Sir Benfro
cynnig gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag iechyd a gwasanaethau perthnasol yn yr ardal leol. Maent hefyd yn cynghori a chefnogi pobl sydd am wneud cwynion ynglŷn â Gwasanaethau GIG.
Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen
darparu cymuned integredig a gwasanaeth gofal iechyd craff mewn ysbytai a chlinigau allanol.
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro
cyfrifol am fonitro a datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol (Meddygon Teulu, deintyddion, optegwyr, fferyllwyr) a mynd i’r afael gydag anghydraddoldeb o ran iechyd.
Doctoriaid, Deintyddion, Fferyllwyr ac Optegwyr Lleol
ATGYWEIRIADAU A NEWIDIADAU I’R CARTREF
Gofal a Thrwsio Sir Benfro
cynnig helpu gydag atgyweiriadau i’r cartref a gosod cymhorthion anabledd i bobl dros 65 mlwydd oed, a hefyd i bobl anabl sy’n agored i niwed a heb rwydwaith gefnogi, e.e. rhywun sengl heb ddim cymorth gofal/teulu. Mae gwasanaeth arbennig ar gael i bobl sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Cymorth atgyweiriadau i’r cartref
GWASANAETHAU LLYFRGELL
Gwasanaeth Llyfrgell Sir Benfro
GOFAL CYMDEITHASOL & CYMORTH ANABLEDD
Y Groes Goch Brydeinig
gallu llogi offer meddygol i bobl ar dymor byr, fel cadeiriau olwyn, gorffwyson gwely a chomodau.
Llinell Fywyd Sir Benfro
system larwm mewn argyfwng.
Gwasanaethau Cymdeithasol: Plant Anabl
Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Cymunedol i Oedolion
SHOP MOBILITY
PIPPA (Cymdeithas Pobl â Nam Corfforol Sir Benfro)
llogi sgwteri a chadeiriau olwyn yn Sgwâr Pen-y-bont ar Ogwr, Hwlffordd (rhwng y maes parcio aml-lawr a’r Ganolfan Groeso). Angen archebu o flaen llaw. Hefyd yn llogi cynorthwyon anabledd ac yn gallu dosbarthu o fewn Sir Benfro, 01437 760665.
CLUDIANT
Ceir i Gynhalwyr
bwriad yw darparu cludiant ar gyfer cynhalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau teuluol, ffrindiau neu gymdogion: teithiau angenrheidiol ar gyfer siopa, apwyntiadau, cysylltu gyda ffrindiau a sefydliadau.
Cyswllt Rachel Evans 01437 768195 e-bost
Ceir Gwledig
gwasanaeth i holl drigolion Sir Benfro, o ba bynnag oedran, sydd heb gludiant ar gyfer teithiau angenrheidiol.
Cyswllt Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched, Cydlynydd Sirol 01437 762911
Cludiant Gymunedol Sir Benfro
helpu pobl a grwpiau sydd heb gludiant personol a methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus arferol.
Y Groes Goch – Gwasanaeth Cludo a Hebrwng
cynnig cludiant addas, gyda rhywun i’ch hebrwng os oes angen, neu wasanaeth hebrwng ar gludiant cyhoeddus. Gellir cynorthwyo defnyddwyr cadeiriau olwyn dim ond os ydynt yn gallu symud o’u cadair olwyn i gerbyd heb help. Wedi’i leoli yn Ysbyty De Sir Benfro, Doc Penfro.