Nod aelodau Grŵp ME Canolbarth a Gorllewin Cymru yw cefnogi’n gilydd mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae hyn yn gymorth i leihau teimladau o unigrwydd a chynyddu ein dealltwriaeth o’n salwch, sef ME/CFS sydd â’r potensial i fod yn salwch niwrolegol cronig.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • rannu gwybodaeth a phrofiadau
  • cylchlythyr rheolaidd
  • llyfrgell bost a’r wefan hon
  • cynnig cefnogaeth drwy’r gwasanaeth ‘clust i wrando’
  • ymgyrchu i wella gwasanaethau iechyd lleol
  • ymgyrchu i wella gofal cymdeithasol
  • codi arian ar gyfer gwaith ymchwil

Ni yw’r grŵp cefnogi ME mwyaf yng Nghymru. Mae’n aelodaeth yn cynnwys cleifion o bob oed, â symptomau sy’n amrywio o ran difrifoldeb o ysgafn i ddifrifol, yn ogystal a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn byw ym Meirionnydd, Ceredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Gwent, Castell-nedd Port Talbot ac ardal Abertawe.

Rydym yn cefnogi WAMES (Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru) yn eu hymgyrch genedlaethol dros wella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfleoedd addysg yng Nghymru, ac elusennau ME yn y DU sy’n ymgyrchu dros ymchwil biolegol i ME/CFS, dros wella mynediad i fudd-daliadau, ac ar faterion anabledd. [Cliciwch ar ‘Cysylltiadau’ ar y chwith am ragor o wybodaeth]

Ymaelodi â’r Grŵp

Pris Aelodaeth Blynyddol y Grŵp yw £6 [i dalu am gynhyrchu a phostio’r cylchlythyr bob deufis]. Cysylltwch â Mair Jones, rhif ffôn 01970 627290, neu e-bost, am wybodaeth ynglŷn ag ymaelodi gyda’r Grŵp.

Gwybodaeth Gyffredinol am y Grŵp

Gallwch gysylltu â Dr Anthony Thompson, rhif ffôn 01970 636515, neu e-bost.

I'r Brig »