Cyfarfodydd

Ar hyn o bryd mae cyfeillion yn dod at eu gilydd yn ardaloedd Abertawe, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Pontiets a Threletert. Fel arfer fe’i cynhelir yn fisol neu bob dau fis. Gallwch gysylltu gyda’r cadeirydd am fanylion pellach ynglŷn ag amserau a lleoliadau.

O bryd i’w gilydd byddwn yn cael siaradwr gwadd i roi sgwrs fer ar destunau sy’n ymwneud ag ME. Naws anffurfiol sydd i’r cyfarfodydd a bydd cyfle i gyfnewid syniadau a gwybodaeth. Mae croeso i bawb ac fe ddarperir lluniaeth.

Dylai aelodau sy’n awyddus i gynnal cyfarfodydd mewn ardaloedd eraill gysylltu gyda’r cadeirydd.

Cylchlythyr a gyhoeddir bob deufis

Mae ME & You yn gyfnodolyn addysgiadol a bywiog sy’n dod â newyddion am grwpiau, materion lleol, safbwyntiau meddygol, adroddiadau ac erthyglau i’ch cartref chi mewn ffurf sy’n hawdd i’w ddarllen. Mae’r rhifyn olaf-ond-un i’w gael ar y wefan hon ynghyd ag ôl-rifynnau i chi eu llwytho i lawr. Cliciwch ar ‘Cylchlythyr GMECGC’ ar y chwith.

Mae’r Tîm Golygyddol yn falch iawn bob amser o dderbyn unrhyw gyfraniadau ac yn eu cynnwys pan fydd digon o le ar gael.

Cymorth gyda Budd-daliadau

Gall y grŵp eich cynghori ar sut i ddelio ag apeliadau’n ymwneud â cheisiadau.

Gwybodaeth am Ymarferwyr Meddygol

Mae’r grŵp yn gwybod am feddygfeydd doctoriaid sympathetig, ynghyd â therapyddion meddygol a meddygaeth amgen a’u triniaethau. Mae’n aelodau yn barod i sôn am eu profiadau hwy gydag eraill.

Llyfrgell Bost

Llyfrau, cylchgronau, tapiau clyw a thapiau fideo am ME. Am bris bychan i dalu am bostio a phecynnu gall aelodau ddewis eitemau o’r llyfrgell. Mae’r rhestr yn cael ei ddiweddaru’n gyson yng nghylchlythyr y grŵp.

Ymwybyddiaeth a Chodi Arian

Mae’r grŵp yn gyson edrych am gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth am ein salwch yn lleol. Yn y gorffennol rydym wedi rhoi cyfweliadau ar y radio ac i bapurau newydd, cynnal Seminar Ranbarthol, dosbarthu taflenni a chodi arian mewn archfarchnadoedd lleol.

Rhubanau Glas

Mae’r grŵp yn cefnogi gwisgo rhubanau glas er mwyn codi ymwybyddiaeth o ME/CFS.

Partnerships

Although MWWMEG is an independent charity we believe that ‘there is strength in numbers’ so we often work in partnership with other organisations:

MANGO Montgomeryshire Alliance for Neurological Groups & Organisations

SGLTCA (South Gwynedd Long Term Conditions Alliance)

SWWNA (Swansea & West Wales Neurological Alliance)

WAMES Welsh Association of ME & CFS Support

YMEST Young ME Sufferers Trust

BAVO Bridgend Association of Voluntary Organisations

CAVS Carmarthenshire Association of Voluntary Services

CAVO Ceredigion Association of Voluntary Organisations

GAVO Gwent Association of Voluntary Organisations

Mantell Gwynedd Mantell Gwynedd

NPTCVS Neath Porth Talbot Council for Voluntary Services

PAVO (Powys Association of Voluntary Organisations

PAVS Pembrokeshire Association of Voluntary Services

SCVS Swansea Council for Voluntary Service

I'r Brig »