Elusennau ME yn y DU a chysylltiadau

25% Group
Grŵp Cefnogi i ddioddefwyr sydd wedi’u heffeithio yn ddifrifol

BRAME [Blue Ribbon for the Awareness of ME]
Nod BRAME yw cynyddu’r ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth o ME/CFS.

Buddsoddi yn ME
Elusen annibynnol yn y DU sy’n ymgyrchu dros ymchwil biofeddygol i ME - fel y diffinnir gan WHO-ICD-10-G93.3.

Canolfan Genedlaethol ME [NMEC]
Elusen sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG yn Essex i ddarparu triniaethau i gleifion allanol a phreswyl.

Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru [WAMES]
Corff ymbarél a sefydlwyd gan Grwpiau Cefnogi ME Cymreig â’r nod o roi llais unfrydol i ddioddefwyr ME a CFS yng Nghymru.

Cymdeithas i Bobl Ifanc ag ME [AYME]
Elusen sy’n cefnogi ac ymgyrchu ar gyfer pobl ifanc dan 25 oed.

Cymdeithas ME [MEA]
Un o’r prif elusennau i gleifion sy’n darparu gwybodaeth am ME a chanddi gronfa ymchwil.

Gweithredu dros ME [AfME]
Un o’r prif elusennau i gleifion, sy’n ymgyrchu ac yn cefnogi grwpiau lleol hefyd.

MERGE [ME Research Group for Education Support]
Prif nod yr elusen hon yw comisiynu ac ariannu ymchwil biofeddygol, ond mae hefyd yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion.

Prosiect PRIME
Partneriaeth rhwng cleifion, gofalwyr, ymchwilwyr a darparwyr gwasanaeth sy’n rhannu’r un ymrwymiad at ymchwil i ME a CFS

Sefydliad Ymchwil CFS yn y DU
Elusen sy’n cefnogi ymchwil safonol i CFS/ME, y diagnosis a’r driniaeth.

Ymddiriedolaeth Dioddefwyr Ifanc ME [Ymddiriedolaeth Tymes gynt]
Elusen sy’n cefnogi ac yn ymgyrchu ar ran pobl ifanc o dan 25 oed. Mae gan yr elusen gronfa ymchwil hefyd. Mae’n gweithredu mewn partneriaeth â Young Action Online, gwefan sy’n darparu erthyglau ar gyfer rhieni, meddygon ac addysgwyr. Aelodaeth am ddim i’r rhai o dan 26 oed, ond mae modd i bobl dros 26 oed ymuno am danysgrifiad bach.

Ymddiriedolaeth Overton
Elusen sy’n cynnig cefnogaeth ME holistig, ag amrywiaeth o ddylanwadau ysbrydol.

I'r Brig »