ME (Myalgic Encephalomyelitis) ydy’r term traddodiadol Prydeinig sydd orau gan gleifion. Mae’r rhai yn honni fod y term yn anghywir ac mae’n well ganddynt y term Myalgic Encephalopathy, er bod pawb yn defnyddio’r prif lythrennau ME.
Weithiau defnyddir CFS (Chronig Fatigue Syndrome) fel term cyffredinol am amrywiaeth o syndromau blinder a hefyd fel enw arall am ME.
Mae PVFS (Post Viral Fatigue Syndrome) yn gyflwr sy’n dilyn firws yn benodol ac yn wahanol iawn i’r lleill, mae’n bosib mai salwch dros dro fydd hwn.
Cyflwr niwrolegol cronig sydd â’r potensial i anablu yw hwn sy’n effeithio’r ymennydd ar lefel gorfforol, feddyliol ac emosiynol. Honnir fod y cyflwr yn effeithio’r system imiwnedd a’r system endocrin hefyd.
Mae’n effeithio pob mathau o bobl o bob oed ac mae’n gallu ymyrryd â phob agwedd o’u bywydau.
Does dim un peth penodol yn achosi ME/CFS er bod ymchwil wedi darganfod bodolaeth genynnau camweithredol. Firws yw dechreuad y cyflwr i lawer. Rhesymau eraill posibl am ddechreuad y cyflwr yw heintiau bacteriol, brechiadau, alergeddau neu sensitifrwydd i fwydydd, amlygiad i gemegau, trawma a straen. Mae erthygl ddiweddar yn y New Scientist yn rhoi manylion am ychydig o’r ymchwil cyfredol am ME/CFS.
Nodweddion y cyflwr yw blinder eithafol, poen yn y cyhyrau ac anhwylder difrifol sy’n debyg iawn i ffliw. Gall pobl ddioddef ystod eang o symptomau fel problemau treulio bwyd, anawsterau â chanolbwyntio a chofio, colli balans, anhwylder cysgu, amrywiadau hwyl, aflonyddwch gweledol a diffygion rheoli tymheredd.
Un o agweddau anoddaf y salwch yw tuedd y symptomau i fod yn anwadal. Gall y gweithgaredd lleiaf achosi blinder corfforol difrifol a gwaethygu symptomau cyffredinol, nad ydynt o angenrheidrwydd yn gwella ar ôl gorffwys.
Mae’n bosib cael cyfnodau o wellhad dros dro, cyn i’r cyflwr waethygu eto, sy’n peri i’r rheiny sy’n ddioddef a’u teuluoedd deimlo’n gymysglyd a rhwystredig.
Dyma gyflwyniad tra defnyddiol sy’n disgrifio ME/CFS yn dda. Gall fod o gymorth i berthnasau a ffrindiau, a gwella eu dealltwriaeth o’r cyflwr.
Mae’n anodd dweud. Mae rhai yn raddol wella’n llwyr, yn arbennig os ydynt wedi cael diagnosis cynnar ac wedi dilyn cynllun rheoli priodol.
Bydd gwellhad y rhan fwyaf o bobl yn amrywio, gyda cyfnodau o waethygu, ac mae’n bosib y gallant adennill hyd at 70-80% o’u hiechyd blaenorol. Mae nifer bach, rhyw 25%, yn parhau i fod yn ddifrifol anabl.
Hyd yma, nid oes gwellhad llwyr ac nid oes un triniaeth sy’n helpu pawb, er bod cleifion wedi darganfod bod gorffwys yn ystod y cyfnodau cynnar a rheoli’u hegni neu gymryd pwyll ymhlith y dulliau mwyaf effeithiol o reoli’r salwch. Mae’n bwysig dod o hyd i ryddhad symptomaidd (confensiynol neu amgen) ar gyfer problemau cysgu, poen, alergeddau neu broblemau treulio bwyd ayb. Yn aml argymhellir Therapi Ymarferion Graddedig (Graded Exercise Therapy - GET) a Therapi Ymddygiad Gwybyddol (Cognitive Behavioural Therapy - CBT), ond dim ond helpu nifer bach o gleifion wna’r rhain, ac mae GET yn arbennig yn gallu gwaethygu symptomau ac felly mae’n rhaid bod yn ofalus iawn.